Numbers 34

Ffiniau'r wlad

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu: 3Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.
34:3 Hebraeg, “Môr Halen”
4Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon. 5O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.

6“‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.

7“‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor, 8ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad. 9Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.

10“‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam; 11wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea, 12ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw.
34:12 Hebraeg, “Môr Halen”
Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”

13A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r Arglwydd wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl. 14Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw. 15Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.”

Y dynion sydd i rannu'r tir

16Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 17“Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. 18A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.”
19Dyma enwau'r arweinwyr ddewisodd yr Arglwydd:

Arweinydd Llwyth
Caleb fab Jeffwnne Jwda
Shemwel fab Amihwd Simeon
Elidad fab Cislon Benjamin
Bwcci fab Iogli Dan
Channiel fab Effod Manasse
Cemwel fab Shifftan Effraim
Elitsaffan fab Parnach Sabulon
Paltiel fab Assan Issachar
Achihwd fab Shelomi Asher
Pedahel fab Amihwd Nafftali

29Y rhain gafodd eu dewis gan yr Arglwydd i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.

Copyright information for CYM